Nodyn Preifatrwydd
Mae Loto Lwcus yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy ('yr Hyrwyddwr') a Gatherwell Ltd ('Gatherwell'). Ystyrir yr Hyrwyddwr a Gatherwell yn rheolwyr data, sy'n golygu bod y ddau sefydliad yn penderfynu pa wybodaeth y mae angen ichi ei darparu i'r Loteri.
Sut rydyn ni'n defnyddio'ch data
Eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a'ch dyddiad geni ydy'r wybodaeth y mae angen i Gatherwell ei chasglu i'ch galluogi i gymryd rhan yn y Loteri. Mae angen i ni gael y wybodaeth hon i gadarnhau eich oedran a'ch hunaniaeth i sicrhau eich bod chi'n ddigon hen i gymryd rhan (18 oed ar hyn o bryd ar gyfer y Loteri hon) ac i reoli'ch cyfrif Loteri. Byddwn ni hefyd yn casglu manylion talu oddi wrthych chi i'ch galluogi i dalu am eich tocynnau loteri. Os nad ydych chi eisiau rhoi'r wybodaeth hon, yn anffodus ni fyddwch chi'n gallu cymryd rhan yn y Loteri.
Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond y data personol rydych chi'n ei rhoi i ni fydd gennym ni. Y sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'ch data personol yw eich bod wedi rhoi'ch cydsyniad a/neu ei bod er budd cyfreithlon i ni wneud hynny gan na fyddem ni'n gallu gweithredu'r Loteri hebddyn nhw, ac nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau na'ch rhyddid.
Mae gennych chi hawl i dynnu'ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg, a gallwch chi wneud hyn trwy roi gwybod i ni yn ysgrifenedig trwy e-bost i [email protected]. Os y byddwch chi'n tynnu'ch cydsyniad yn ôl, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu yr oedd gennym ni gydsyniad iddo cyn ichi ei dynnu yn ôl.
Bydd Gatherwell Ltd yn rhannu'ch enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad e-bost â Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a'r Achosion Da y byddwch chi'n dewis eu cefnogi er mwyn galluogi'r Achos Da i ddeall ei sail cefnogwyr. Gall yr Achos Da hefyd ddefnyddio'r wybodaeth hon i gyfathrebu â chi ynglŷn â'r loteri os y byddwch chi'n cydsynio i hynny.
Nid ydyn ni'n defnyddio unrhyw gyfrifiaduron neu ddulliau awtomataidd i wneud penderfyniadau amdanoch chi ar sail y wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Nid ydyn ni'n rhannu gwybodaeth â thrydydd partïon fel mater o drefn mewn gwledydd eraill, ond rydyn ni'n defnyddio meddalwedd sy'n cael ei westeio ar gwmwl.
Rydyn ni'n cadw'ch gwybodaeth gyhyd ag sydd ei hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn y Loteri yn unig. Fel rheol, rydyn ni'n cadw data am 3 blynedd ar ôl gweithgarwch diwethaf y defnyddiwr ar y wefan. Gan fod yna warant oes ar gyfer defnyddwyr Debyd Uniongyrchol rydyn ni fel rheol yn cadw data'r defnyddiwr hwn am 7 mlynedd.
Mae gennych chi nifer o hawliau cyfreithiol o ran eich data personol, sef: hawl i gael gwybod am sut y maen nhw'n cael eu defnyddio a pham; hawl mynediad i'r data i weld a ydyn ni'n gweithredu'n gyfreithlon ac, mewn rhai achosion, hawl i'w cywiro neu eu cael wedi'u dileu; hawl i gyfyngu ar faint rydyn ni'n eu prosesu; hawl i gludadwyedd data; a hawl i wrthwynebu penderfynu awtomataidd.
Beth yw Cwcis?
Ffeiliau testun bach iawn ydy cwcis, ac maen nhw’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur pan rydych chi’n mynd i rai gwefannau.
Rydyn ni’n defnyddio cwcis i helpu i adnabod eich cyfrifiadur fel ein bod ni’n gallu llunio’ch profiad defnyddiwr yn benodol i chi, olrhain cynnwys basgedi siopa a chofio lle rydych chi yn y broses archebu.
Gallwch chi analluogi unrhyw gwcis sydd eisoes wedi’u storio ar eich cyfrifiadur, ond mae’n bosibl y bydd hyn yn atal ein gwefan rhag gweithio’n iawn.
Sut ydyn ni'n defnyddio Cwcis?
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i olrhain sut mae defnyddwyr yn llywio drwyddi. Mae hyn yn ein helpu i werthuso a gwella ein gwefan a'n gwasanaethau ar-lein.
Maent yn galluogi ein system i adnabod eich porwr a chynnal eich manylion prynu yn eich basged siopa. Maent hefyd yn ein galluogi i olrhain defnyddwyr ar draws sesiynau lluosog at ddibenion dadansoddol.
Mae'r rhan fwyaf o borwyr Rhyngrwyd wedi'u rhagosod i dderbyn cwcis. Os yw'n well gennych beidio â'u derbyn, gallwch addasu eich porwr i'w hanalluogi neu i'ch rhybuddio pan gânt eu defnyddio. Gan fod llawer o borwyr yn y farchnad, y ffordd hawsaf o newid eich gosodiadau yw trwy chwilio am 'cwcis' yn yr opsiynau Cymorth/Cynnwys a Mynegai ar eich porwr. Ni allwn gynnig cyngor technegol ar sut i wneud hyn.
Gall diffodd rhai cwcis amharu ar weithrediad gwefan a’u gwneud yn llai cyfleus i’r defnyddiwr. Rydym yn argymell eich bod yn gadael eich cwcis wedi'u galluogi; fel arall, efallai y byddwch yn cael anhawster i brynu cofnodion loteri gyda ni.
Nid yw ein cwcis yn anfon unrhyw wybodaeth yn ôl atom am eich cyfrifiadur (ac eithrio eich cyfeiriad IP) ac nid ydynt yn casglu gwybodaeth am safleoedd blaenorol yr ymwelwyd â nhw neu gyrchfan wrth adael.
Rydym yn deillio gwybodaeth o Cwcis fel:
Cwcis Swyddogaethol
- Hwyluso gallu defnyddwyr i lywio drwy'r wefan.
- Canfod a yw'r wefan yn gweithredu'n effeithiol.
- Rydym hefyd yn defnyddio technoleg cwci gyda’n ffurflenni cofrestru ar-lein i sicrhau ein bod yn cynnal eich cyfrinachedd a’ch diogelwch wrth i chi symud drwy rannau diogel o’r wefan sydd wedi’u diogelu gan gyfrinair.
Cwcis Anweithredol
- Personoli a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i chi trwy ddeall eich dewisiadau a sefydlu pa feysydd o'r wefan sydd fwyaf perthnasol i chi.
- Casglu ystadegau ar sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, a all ein helpu i wella ein gwefan a gwasanaethau ar-lein.
Rheoli Cwcis
Yn eich porwr gwe gallwch reoli pa fathau o gwcis yr ydych yn eu caniatáu. Gallwch droi cwcis ymlaen neu i ffwrdd gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr. Gallwch hefyd ddileu cwcis a chlirio storfa (hanes) eich porwr.
Trwy analluogi Cwcis Anweithredol, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn rhai o'r nodweddion a gynigir gennym ni.
Gallwch hefyd optio allan o gwcis anweithredol isod:
Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd a bydd unrhyw ddiweddariadau’n cael eu postio ar y wefan hon.