I wneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn ein neges e-bost mae angen ichi ychwanegu [email protected] at eich rhestr o anfonwyr diogel.

Os byddwch chi’n dod o hyd i’n negeseuon e-bost yn y ffolderi Sothach neu Sbam, cofiwch ddweud wrth eich cleient e-bost nad yw hwn yn Sothach neu’n Sbam. Dylai hyn symud yr e-bost i’r Mewnflwch a helpu i addysgu’ch cleient e-bost i beidio â marcio’r negeseuon e-bost hynny fel sothach/sbam yn y dyfodol.

Dyma gyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ychwanegu ein cyfeiriad e-bost at y rhestr anfonwyr diogel ar gyfer y cleientiaid e-bost mwyaf cyffredin:


AOL

  1. Cliciwch Contacts yn y bar offer ar y dde
  2. Cliciwch Add Contact
  3. Nodwch Loto Lwcus a gwybodaeth ychwanegol os ydych chi eisiau gwneud hynny
  4. Cliciwch y botwm Add Contact yn y naidlen i orffen

Gmail

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. Cliciwch ar y saeth drionglog fach sy’n pwyntio ar i lawr nesaf at reply
  3. Cliciwch Add Loto Lwcus at y rhestr o gysylltiadau i orffen

Yahoo

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. Cliciwch Add to contacts nesaf at Loto Lwcus.
  3. Ar y naidlen Add Contact, ychwanegwch wybodaeth ychwanegol os oes angen.
  4. Cliciwch Save i orffen

Windows Live Hotmail

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. Cliciwch Add to contacts nesaf at enw’r anfonwr (Loto Lwcus) i orffen

Outlook.com

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. Cliciwch Add to contacts nesaf at enw’r anfonwr (Loto Lwcus) i orffen

Microsoft Outlook 2003

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. De-gliciwch Click here i lawrlwytho delweddau yn y bar llwyd ar frig y neges
  3. Cliciwch Add Sender to Senders Safe List i orffen

Outlook 2007

  1. De-gliciwch ar yr e-bost rydych chi wedi’i dderbyn (yn y rhestr o negeseuon e-bost)
  2. Cliciwch Junk E-mail
  3. Cliciwch Add Sender to Safe Senders List i orffen

Outlook 2010 a 2013

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. Cliciwch ar ddewislen Home
  3. Cliciwch Junk > Never Block Sender

Apple Mail

  1. De-gliciwch ar yr e-bost rydych chi wedi’i dderbyn (yn y rhestr o negeseuon e-bost)
  2. Cliciwch Add to Address Book

Ipad, Iphone neu Ipod Touch

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. Tapiwch yr anfonwr a’i ychwanegu at naill ai cyswllt newydd neu gyswllt presennol

Dyfeisiau Android - Samsung, Google Nexus ac eraill

  1. Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
  2. Tapiwch y llun o’r anfonwr
  3. Tapiwch OK i ychwanegu cysylltiadau