Cwestiynau Cyffredin
C: Pa sefydliadau sy'n cael cofrestru?
A: Gall unrhyw achos da sy'n gweithredu ym Mhowys ymgeisio! (DS Mae yna rai sefyllfaoedd lle gellir gwahardd, gwelwch y Telerau ac Amodau am fanylion)
C: Pa wybodaeth y bydd angen i mi ei rhoi i gofrestru?
A: Bydd angen rhai darnau allweddol o wybodaeth i'ch cofrestru fel achos da yn Loto Lwcus. Bydd hyn yn cynnwys enw'ch sefydliad, cyswllt allweddol a'i rôl, cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost. Yna bydd angen ichi gadarnhau eich bod chi'n gymwys (gwelwch y cwestiwn uchod).
Er mwyn talu'ch arian ichi, bydd angen manylion eich banc a bydd angen ichi hefyd ddarparu logo ar gyfer eich sefydliad i'w gynnwys ar y deunyddiau marchnata y byddwn ni'n eu creu yn benodol i chi. Gallwch chi ddarparu'r rhain wrth gofrestru, ond nid oes yn rhaid ichi eu rhoi i gael eich cofrestru. Cofiwch ddweud wrthym ni os y bydd unrhyw fanylion yn newid.
C: Pa fath o logo sydd ei angen arna' i?
A: Gallwn ni dderbyn logos yn y mwyafrif o fformatau ffeiliau (.png, .jpg, .gif ac ati)
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi un; byddwn ni'n creu logo ar eich cyfer i'w ddefnyddio ar y dechrau a byddwch chi'n gallu ei newid ef ac unrhyw fanylion eraill unrhyw bryd.
C: Pa ddeunyddiau ydych chi'n eu darparu i'm helpu i hybu fy loteri?
A: Rydyn ni'n darparu deunyddiau cyfathrebu wedi'u llunio'n benodol i'ch achos da chi. PDFs wedi'u paratoi'n broffesiynol fydd y rhain, a bydd modd eu hatodi at negeseuon e-bost rydych chi'n eu hanfon at eich cymuned. Mae'n bosibl hefyd argraffu ein deunyddiau a'u postio o amgylch yr ardal leol. Rydyn ni hefyd yn rhoi'ch tudalennau gwe'ch hunain ichi ar wefan www.cvsclotolwcus.co.uk er mwyn i'ch cefnogwyr allu cofrestru, gwirio canlyniadau a gweld faint o arian sy'n cael ei godi.
C: Sut y mae enillwyr yn cael gwybod eu bod wedi ennill?
A: Bob wythnos, bydd pob enillydd yn cael gwybod trwy e-bost. Caiff y rhif buddugol hefyd ei gyhoeddi ar ein gwefan, Facebook a X bob wythnos ar ôl y digwyddiad tynnu tocynnau.
C: Sut ydyn ni derbyn ein cyfran ni o brisiau'r tocynnau sy'n cael eu gwerthu?
A: Caiff eich arian ei drosglwyddo'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc bob mis.
C: Sut ydw i'n gwybod sut hwyl rydw i'n ei chael ar godi arian?
A: Bob wythnos, byddwn ni'n anfon cylchlythyr atoch chi sy'n rhoi'r holl fanylion ichi. Mae'n dweud wrthych chi faint o gefnogwyr sydd wedi dewis cyfeirio'u cefnogaeth i chi, pwy ydyn nhw, faint o docynnau sy'n cael eu gwerthu bob wythnos, faint o arian sydd wedi'i godi ac ati. Mae yna hefyd ddangosfwrdd ar y wefan a fydd yn rhoi ystadegau mewn amser real am eich ymgyrch!
C: Pwy sy'n delio ag unrhyw gwestiynau y mae fy nghefnogwyr eisiau eu codi?
A: Y ni! Mae gennym ni rif penodol i roi cymorth (01492 483015) sy'n delio'n uniongyrchol ag unrhyw ymholiadau y mae'ch cefnogwyr eisiau eu codi, yn ogystal â'n cyfeiriad e-bost ([email protected]) i roi cymorth.
C: Ydy rhywun yn gallu chwarae os nad ydyn nhw ar-lein?
A: Ydyn. Mae chwaraewyr yn gallu ffonio rhif penodol Loto Lwcus – (01492 483015) – i gofrestru a threfnu taliadau.
C: Pa weinyddu sydd angen i ni ei wneud?
A: Dim! Y cyfan y mae angen i chi ei wneud ydy bloeddio am eich tudalen Loto Lwcus!
C: Os ydy fy achos da i'n cael 50c am bob tocyn sy'n cael ei werthu, ble mae'r 50c arall yn mynd?
A: Mae 10c yn cael ei ddefnyddio i gefnogi achosion da eraill ym Conwy. Mae 20c yn mynd i wobrau ac mae'r 20c sy'n weddill ar gyfer gweinyddu'r loteri a TAW.
C: Mae fy achos da yn awr yn fyw. Beth ddylwn i ei wneud nesaf?
A: Mae gennym lawer o awgrymiadau i'ch helpu i ddechrau codi arian gyda Loto Lwcus ar ein tudalen dechrau arni.
C: Ydy cefnogwyr yn cael defnyddio Rhodd Cymorth ar bris y tocyn?
A: Yn anffodus, ni allwch chi hawlio Rhodd Cymorth at docynnau loteri sy'n cael eu prynu.