Peidiwch â cholli ein gwobr dynnu gyntaf!
Dechreuwch gefnogi Loto Lwcus a gallech ENNILL y wobr anhygoel hon yn ychwanegol at wobrau ariannol eraill!
Sut gallaf gymryd rhan?
Mae'n syml, prynwch un neu ragor o docynnau cyn Sad 3 Ebrill 2021. Bydd pob tocyn yn rhoi cyfle i chi ennill. Felly bydd rhagor o docynnau yn golygu rhagor o gyfleoedd i ennill!
Rheolau Tynnu'r Gwobrau
- Yr hyrwyddwr yw: Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy ac mae ei swyddfa gofrestredig yn Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy, 7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw, Colwyn Bay/Bae Colwyn, LL29 7TG
- Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl drigolion y Deyrnas Unedig 16 oed neu'n hyn ac eithrio gweithwyr Gatherwell Ltd a'u perthnasau agos ac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig a'r sefydliad.
- Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yw Sad 3 Ebrill 2021 am 8pm BST. Ar ôl y dyddiad hwn ni chaniateir unrhyw geisiadau eraill i'r gystadleuaeth
- Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sydd heb eu derbyn am ba bynnag rheswm
-
Mae rheolau'r gystadleuaeth a sut i gymryd rhan fel a ganlyn:
- Byddwch yn gallu cymryd rhan yn y gêm os byddwch yn prynu tocyn ar gyfer Loto Lwcus ar www.cvsclotolwcus.co.uk
- Bydd yr holl docynnau ar gyfer y digwyddiad ar Sad 3 Ebrill 2021 yn cael eu cynnwys yn y digwyddiad hyrwyddo yma (os derbynnir y taliad llawn)
- Rhaid i enillwyr cytuno i gyhoeddusrwydd ac ymgyrchoedd
- Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu newid y gystadleuaeth a'r amodau a thelerau hyn heb roi rhybudd pe bai trychineb, rhyfel, aflonyddwch sifil neu filwrol, gweithred Ddwyfol neu unrhyw dor-gyfraith neu reoliadau perthnasol gwirioneddol neu a ragwelwyd neu unrhyw ddigwyddiad arall y tu allan i reolaeth yr hyrwyddwr. Bydd yr hyrwyddwr yn rhoi gwybod i'r ymgeiswyr cyn gynted â phosib am unrhyw newidiadau i'r gystadleuaeth.
- Nid yw'r hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw fanylion anghywir a roddwyd am y wobr i unrhyw rai a gymerodd ran gan drydydd parti yn gysylltiedig â'r gystadleuaeth hon.
- Mae'r gwobrau (gweler isod) fel y nodir ac ni chynigir unrhyw arian parod neu ddewisiadau eraill. Ni ellir trosglwyddo'r gwobrau. Mae'r gwobrau'n ddibynnol ar argaeledd ac rydym yn cadw'r hawl i roi gwobr arall sydd o werth cyfatebol heb roi rhybudd yn lle'r wobr wreiddiol.
- Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap gan feddalwedd o'r holl geisiadau a dderbyniwyd ac yn cael eu dilysu gan yr hyrwyddwr a/neu ei asiantaethau
- Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy neges e-bost neu lythyr o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad cau. Os na ellir cysylltu â'r enillydd neu os nad yw'n hawlio'r wobr o fewn 14 diwrnod o gael ei hysbysu, rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r wobr yn ol ac i ddewis enillydd arall
- Bydd yr hyrwyddwr yn hysbysu'r enillydd pryd ac ymhle y gellir casglu'r wobr / bydd y wobr yn cael ei dosbarthu.
- Bydd penderfyniad yr hyrwyddwr mewn perthynas â'r holl faterion yn gysylltiedig â'r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth amdano
- Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae'r ymgeisydd yn dangos ei gytundeb a'i fod yn ymrwymo i'r amodau a'r telerau hyn.
- Bydd y gystadleuaeth a'r amodau a thelerau yma'n cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr a bydd unrhyw anghydfodau yn destun awdurdodaeth benodol llysoedd Lloegr
- Mae'r enillydd yn cytuno y gellir defnyddio ei enw a'i lun mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd, yn ogystal â'u cais. Bydd unrhyw ddata personol yn gysylltiedig â'r enillydd neu unrhyw ymgeisydd arall yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r ddeddfwriaeth gwarchod data cyfredol y DU yn unig ac ni fydd yn cael ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd blaenorol yr ymgeisydd.
-
Bydd enw'r enillydd ar gael 28 diwrnod ar ol y dyddiad cau trwy anfon e-bost i'r cyfeiriad canlynol: [email protected]
- Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth ystyrir eich bod wedi derbyn yr amodau a'r telerau hyn.
- Nid yw'r ymgyrch hwn wedi cael ei noddi, ei ardystio neu ei weinyddu gan, neu'n gysylltiedig â Facebook, Twitter neu unrhyw Rwydwaith Cymdeithasol arall. Rydych yn darparu eich gwybodaeth i Loto Lwcus ac nid ar gyfer unrhyw barti arall. Defnyddir y wybodaeth a ddarperir ar y cydâa'r Polisi Preifatrwydd canlynol a gellir ei weld yma
- Bydd gan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy yr hawl, ar ei ddisgresiwn ei hun yn unig ac ar unrhyw bryd, i newid neu ddiwygio'r amodau a thelerau hyn, bydd newid o'r fath yn effeithiol ar unwaith ar ol ei bostio ar y dudalen gwe yma.
Gwobrau
- Taleb Amazon £250!