1. Cyflwyniad

1.1 Caiff Loto Lwcus ("y Loteri") ei gweithredu fel Loteri Awdurdod Lleol dan Ddeddf Gamblo 2005, fel y'i diwygiwyd ("y Ddeddf").

1.2 Mae'r Loteri'n cael ei hyrwyddo gan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy ac yn cael ei chynnal er budd yr achosion da a restrir o bryd i'w gilydd fel achosion da sy'n cymryd rhan.

1.3 Caiff y Loteri ei gweinyddu gan Gatherwell Ltd, Lytchett House, 13 Freeland Park, Wareham Road, Poole, Dorset, BH16 6FA, sy'n gweithredu ar ran Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy fel Cymdeithas sy'n cymryd rhan.

1.4 Mae Gatherwell wedi'i ardystio fel Rheolwr Loteri Allanol ("ELM") gan y Gambling Commission (Rhif Cyfrif: 36893)

2. Diffiniadau

"Y Ddeddf" Deddf Gamblo 2005

"Y Loteri" Loto Lwcus

"Digwyddiad Tynnu Tocynnau" Y broses o ddethol enillwyr

"Gatherwell" Gatherwell Ltd

"Aelod" Unigolyn sydd wedi cofrestru â'r Loteri

"Rheolau" Rheolau'r Loteri fel y manylir arnynt isod ac a ddiwygir o bryd i'w gilydd

"Cyfle" Cynnwys yn y Loteri

"Cymdeithas" Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy, sy'n cymryd rhan ac yn hyrwyddo'r Loteri o bryd i'w gilydd

"Hyrwyddwr" Hyrwyddwr cofrestredig y loteri ar gyfer Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy

"Rhif Gêm" Y rhif chwe digid sy'n i bob Aelod a ddefnyddir i nodi Cyfleoedd unigol sy'n cael eu cynnwys yn y Loteri

"Y Rhif Buddugol" Y rhif fel yr esbonnir ef yn Rheol 9.1

3. Cynnwys yn y Loteri

3.1 Caiff y Loteri ei hyrwyddo'n unol â Deddf Gamblo 2005, fel y'i diwygiwyd ("y Ddeddf"). Er mwyn cydymffurfio â'r Ddeddf, pan fyddwch chi'n prynu Cyfleoedd Loteri fe fydd gofyn ichi gadarnhau:

(a) Eich bod chi'n 18 oed o leiaf

(b) Eich bod chi'n preswylio ym Mhrydain Fawr

(c) Na fyddwch chi'n prynu neu'n hawlio prynu cyfleoedd loteri ar ran unrhyw un arall

3.2 Os, ar ôl ennill unrhyw wobr yn y Loteri, nad ydych chi'n gallu profi'ch bod wedi bodloni'r meini prawf y manylir arnynt yn Rheolau 3.1 (a), (b) a (c) uchod yna ni fydd gennych chi hawl i dderbyn y wobr honno.

3.3 Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddf, gwaherddir ad-daliadau yn ddiweddarach am gyfleoedd loteri sydd wedi'u prynu.

3.4 Trwy roi cynnig ar y Loteri, rydych chi'n cytuno i fod yn rhwymedig i'r Rheolau, a darpariaethau perthnasol y Ddeddf ac unrhyw reoliadau perthnasol a wneir dan y rhain o bryd i'w gilydd. Ni fydd y Gymdeithas yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (gan gynnwys colli'r cyfle i roi cynnig ar y Loteri a / neu'r hawl i dderbyn gwobr) a ddaw i'ch rhan os nad ydych chi wedi cydymffurfio â'r Rheolau. Gall Gatherwell ddiwygio'r Rheolau o bryd i'w gilydd.

3.5 Gwaherddir gweithwyr Gatherwell a'u teuluoedd agos ac aelodau'r cartref a gweithwyr a'u teuluoedd agos ac aelodau cartref rhiant-gwmni Gatherwell (Jumbo Interactive Limited) a'i is-gwmnïau cysylltiedig rhag prynu tocynnau loteri a byddant yn anghymwys am unrhyw wobr.

4. Cofrestru â'r Loteri

4.1 Yr unig ffordd i ymuno â'r Loteri yw cofrestru â hi trwy lenwi ffurflen gais a fydd yn cael ei chyhoeddi mewn sawl ffurf o bryd i'w gilydd.

4.2 Bydd gofyn ichi ddarparu'r wybodaeth a ganlyn wrth gofrestru:

(a) Eich enw a'ch cyfeiriad, fel y gallwn ni ysgrifennu atoch chi i gadarnhau eich bod wedi'ch cynnwys yn y loteri ac i gysylltu â chi os ydych chi wedi ennill gwobr.

(b) Cadarnhad eich bod chi dros 18 oed, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cydymffurfio â'r Ddeddf.

(c) Nifer y Cyfleoedd yn y Loteri rydych chi eisiau eu prynu

4.3 Bydd gofyn ichi hefyd ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

(a) Eich dyddiad geni

(b) Eich cyfeiriad e-bost

4.4 Bydd gofyn ichi hefyd ddarparu gwybodaeth sy'n ymwneud â phrynu'ch Cyfleoedd. Gellir defnyddio'r dulliau a ganlyn i dalu, a bydd y wybodaeth berthnasol yn amrywio, gan ddibynnu ar y dull talu.

(a) Debyd Uniongyrchol – Bydd y wybodaeth ofynnol yn cynnwys manylion eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu, ynghyd â chyfarwyddiadau i'r banc neu'r gymdeithas adeiladu i wneud taliadau trwy Ddebyd Uniongyrchol

(b) Cerdyn Credyd – Bydd y wybodaeth ofynnol yn cynnwys rhif y cerdyn, y dyddiad y daw i ben a rhif diogelwch y cerdyn

(c) Cerdyn Debyd – Bydd y wybodaeth ofynnol yn cynnwys rhif y cerdyn, y dyddiad y daw i ben a rhif diogelwch y cerdyn

(d) Unrhyw ddull arall a ddaw ar gael gan Gatherwell o bryd i'w gilydd – Bydd y wybodaeth ofynnol yn dibynnu ar y dull talu

4.5 Bydd gan Gatherwell hawl i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddilysu'r wybodaeth uchod ac i brosesu'ch cofrestriad. Gall Gatherwell (â disgresiwn absoliwt) wrthod derbyn cais unigolyn i ddod yn Aelod o'r Loteri.

4.6 Ar ôl cofrestru, bydd Gatherwell yn anfon cadarnhad atoch chi eich bod wedi'ch cynnwys yn y Loteri. Os ydych chi wedi dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch chi'n derbyn Llythyr Hysbysiad Ymlaen Llaw.

4.7 Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhoi i ni'n fanwl gywir.

4.8 Os y byddwch chi'n dod o hyd i gamgymeriad yn eich enw, eich cyfeiriad neu unrhyw fanylion eraill sydd wedi'u darparu i Gatherwell fel rhan o'ch cofrestriad, yna pan fyddwch chi'n derbyn eich cadarnhad mae'n rhaid ichi gywiro hyn trwy roi gwybod i Gatherwell yn ysgrifenedig neu drwy e-bost. Bydd Gatherwell yn gwneud unrhyw gywiriadau gofynnol cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl. Ni fydd Gatherwell yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (gan gynnwys colli'r cyfle i roi cynnig ar y Loteri a / neu'r hawl i dderbyn gwobr) a ddaw i'ch rhan hyd nes y bydd y cyfryw gywiriad wedi'i wneud. Ni ddaw unrhyw gywiriad y rhoddir gwybod amdano i Gatherwell i rym hyd nes bod y cywiriad wedi'i wneud.

4.9 Wrth gofrestru am docynnau, fe fyddwch chi'n cael y dewis i ddethol eich rhif 6 digid eich hun neu i ganiatáu dyrannu rhif a gynhyrchir ar hap ar eich cyfer. Gallwch chi newid y Rhif Gêm hwn ar unrhyw adeg wedyn, os ydych chi eisiau gwneud hynny.

5. Talu

5.1 Gellir defnyddio'r dulliau a ganlyn i dalu am Gyfleoedd:

(a) Debyd Uniongyrchol

(b) Cerdyn Credyd

(c) Cerdyn Debyd

(d) Unrhyw ddull arall a ddaw ar gael gan Gatherwell o bryd i'w gilydd

5.2 Telir am Gyfleoedd yn uniongyrchol i Gatherwell. Felly:

(a) Yn achos taliadau Debyd Uniongyrchol, cyfeirir at naill ai Gatherwell neu Loto Lwcus ar eich cyfriflen banc.

(b) Yn achos unrhyw ddull arall a ddaw ar gael gan Gatherwell o bryd i'w gilydd, cyfeirir at Gatherwell neu Loto Lwcus ar unrhyw ddogfennaeth briodol, neu bydd y taliadau'n daladwy i Gatherwell neu Loto Lwcus.

5.3 £1 yw'r pris am bob Cyfle, neu unrhyw swm arall y gall Gatherwell roi gwybod ichi amdano o bryd i'w gilydd.

5.4 Ni fydd eich Cyfleoedd, ac felly Rhif(au) Gêm cysylltiedig, yn cael eu cynnwys yn y Digwyddiad Tynnu Tocynnau os nad yw Gatherwell wedi derbyn pob swm taladwy (arian wedi'i glirio) sy'n ymwneud â'ch Rhifau Gêm sy'n berthnasol i'ch Cyfleoedd erbyn 23:59 ar y dydd Gwener cyn digwyddiad tynnu tocynnau'r wythnos honno. Os oes unrhyw anghydfod ynglŷn â ph'un a ydych chi wedi talu am Gyfleoedd, yna datrysir anghydfod o'r fath trwy gyfeirio at fanylion sydd wedi'u cynnwys ar gyfriflenni swyddogol o'r banc y mae cyfrifon banc Gatherwell yn gweithredu ag ef.

5.5 Caiff tocynnau y telir amdanynt drwy Ddebyd Uniongyrchol eu cynnwys yn y digwyddiad tynnu tocynnau cyntaf ar gael 3 diwrnod gwaith ar ôl casglu'r taliad o'ch cyfrif banc. Byddwch chi'n cael gwybod am ddyddiad eich digwyddiad tynnu tocynnau cyntaf trwy e-bost.

5.6 Gallwch chi ganslo'ch aelodaeth o'r Loteri trwy roi gwybod i Gatherwell yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (neu drwy unrhyw ddulliau eraill y bydd Gatherwell yn eu nodi o bryd i'w gilydd). Pan fydd Gatherwell yn derbyn yr hysbysiad hwn, bydd yn;

(a) Canslo taliadau Debyd Uniongyrchol yn y dyfodol cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

(b) Yn unol â'r Ddeddf a'r disgrifiad yn Rheol 3.3, os y bydd yna unrhyw daliadau a wnaed cyn i'r canslad ddod i rym, ond oedd heb eu defnyddio i dalu am Gyfleoedd mewn Digwyddiadau Tynnu Tocynnau blaenorol, yna defnyddir nhw i dalu am gynnwys eich Cyfleoedd mewn Digwyddiadau Tynnu Tocynnau yn y dyfodol.

5.7 Gall Gatherwell ganslo'ch cynnwys yn y Loteri (â disgresiwn absoliwt) ar unrhyw adeg. Bydd Gatherwell yn rhoi gwybod ichi am hyn cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol a bydd yn ad-dalu unrhyw symiau sydd wedi'u talu ond sy'n berthnasol i Ddigwyddiadau Tynnu Tocynnau yn y dyfodol. Heblaw am ad-dalu unrhyw symiau o'r fath, ni fydd Gatherwell yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (gan gynnwys colli'r cyfle i roi cynnig ar y Loteri a / neu'r hawl i dderbyn gwobr) a ddaw i'ch rhan o ran canslo o'r fath.

6. Diogelu Cronfeydd Cwsmeriaid

6.1 Mae Gatherwell yn trosglwyddo cronfeydd cwsmeriaid o fewn 14 diwrnod gwaith o'u derbyn i mewn i gyfrif cleient ar wahân ar ran y cymdeithasau rydym ni'n gweithredu ar eu cyfer, a throsglwyddir y cronfeydd hyn i'r Gymdeithas yn rheolaidd. Mae'n rhaid i'r holl weithredwyr o bell y mae'r Comisiwn Gamblo wedi'u trwyddedu fod â chyfrifon ar wahân ar gyfer arian sy'n dod i mewn. Diben hyn yw diogelu'r chwaraewr pe bai'r cwmni'n dod yn fethdalwr. Yn ôl asesiad Gatherwell, maent yn cynnig lefel ‘Ganolig' o ddiogelwch yn unol â chategorïau'r Gambling Commission

7. Rhifau Tocynnau

7.1 Gellir dewis rhifau tocynnau wrth eu prynu, naill ai trwy eu dethol eich hun neu drwy ddefnyddio opsiwn "Ar hap" lle caiff cyfuniad o rifau eu dethol ar hap.

7.2 Gellir newid Rhifau Tocynnau ar unrhyw adeg, ond er mwyn osgoi amheuaeth, ni ddaw rhifau sy'n cael eu newid ar ôl 23.59 ar y dydd Gwener cyn y digwyddiad tynnu tocynnau i rym tan ar ôl i'r digwyddiad tynnu tocynnau nesaf ddod i ben.

8. Newidiadau i Fanylion Aelod

8.1 Rhaid rhoi gwybod i Gatherwell am unrhyw newidiadau i'r manylion y gwnaethoch eu rhoi wrth gofrestru, yn ysgrifenedig neu drwy e-bost. Os y bydd manylion y banc neu'r gymdeithas adeiladu a nodwyd wrth gofrestru'n cael eu newid, bydd angen cwblhau Cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol newydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn oddi wrth Gatherwell ar gais.

9. Digwyddiadau Tynnu Tocynnau

9.1 Mae'r broses Tynnu Tocynnau wedi'i seilio ar ganlyniadau gêm Loteri Genedlaethol Super66 Awstralia, sydd wedi'u cyhoeddi ar wefan Lottery West (www.lotterywest.wa.gov.au). Bydd y Rhif Buddugol ar gyfer pob digwyddiad tynnu tocynnau'n rhif chwe digid a gynhyrchir fel a ganlyn:

(a) bydd y Rhif Buddugol yn rhif chwe digid (yn yr un drefn) â'r rhifau a dynnir yn Loteri Genedlaethol Super66 Awstralia sy'n digwydd ar y nos Sadwrn o'r un wythnos.

9.2 Er mwyn cydymffurfio â'r Ddeddf, dim ond y Cyfleoedd y mae taliad wedi'i dderbyn amdanynt sy'n gymwys i'w cynnwys yn y Digwyddiad Tynnu Tocynnau.

9.3 Os na fydd digwyddiad tynnu tocynnau Super66 yn digwydd fel a ddisgrifir yn Rheol 9.1 neu os y bydd yn cael ei ddirymu unwaith, yna penderfynir ar y Rhif Buddugol yn yr un ffordd ond trwy ddefnyddio gêm loteri amgen. Os y bydd hyn yn digwydd, caiff y manylion eu cyhoeddi ar wefan y Loteri.

9.4 Os y bydd y broses Tynnu Tocynnau yn Rheol 9.1 yn peidio, neu os y bydd yn cael ei newid yn sylfaenol mewn ffordd sy'n atal dethol Rhif Buddugol, yna mae Gatherwell yn cadw'r hawl i ddethol proses Tynnu Tocynnau amgen. Byddai proses Tynnu Tocynnau amgen yn cael ei dethol ar y sail y byddai egwyddorion sylfaenol y Digwyddiad Tynnu Tocynnau fel y'u disgrifir yn Rheol 9.1 yn parhau ac y byddai'r egwyddorion sylfaenol o ran sut y byddai enillwyr yn cael eu dethol yn parhau fel y'u disgrifir yn Rheol 10. Caiff newidiadau o'r fath eu cyhoeddi ar wefan y Loteri.

9.5 Nid oes unrhyw berthynas o gwbl rhwng Gatherwell na'r Loteri a Loteri Genedlaethol Awstralia, y Loteri Genedlaethol, Camelot Group PLC neu unrhyw sefydliad arall sydd a wnelo â gweithredu'r Loteri Genedlaethol.

9.6 Mae'r tebygolrwyddau ennill ar gyfer gwobrau fel a ganlyn:

Nifer sydd wedi paru Gwobr Ods
6 £25,000 1,000,000:1
5 £2,000 55,556:1
4 £250 5,556:1
3 £25 556:1
2 3 thocyn Am Ddim 56:1

10. Gwobrau

10.1 Caiff enillwyr gwobrau eu pennu yn ôl p'un a yw Rhif Gêm Aelod sy'n berthnasol i Gyfle yn y Loteri'n cyfateb i'r Rhifau Buddugol fel y'u disgrifir yn Rheolau 9.1 a 9.6, cyn belled â bod y Cyfle sy'n berthnasol i'r Rhif Gêm dan sylw'n cydymffurfio â Rheolau 9.2.

10.2 Caiff gwobrau eu dyfarnu fel a ganlyn:

Nifer y Rhifau Sy'n Cyfateb Gwobr
6 £25,000
5 £2,000
4 £250
3 £25
2 3 thocyn ychwanegol

10.3 Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i newid y strwythur gwobrau ar unrhyw adeg. Caiff unrhyw newidiadau o'r fath eu cyhoeddi ar wefan y Loteri o leiaf un mis cyn i'r newid ddod i rym.

10.4 Bydd gan bob Rhif Gêm hawl i ennill un gwobr yn unig mewn un Digwyddiad Tynnu Tocynnau. Bydd yr un wobr honno'n adlewyrchu'r wobr â'r gwerth uchaf.

10.5 Caiff canlyniadau pob Digwyddiad Tynnu Tocynnau (gan gynnwys enillwyr) eu cyhoeddi ar wefan y Loteri o fewn wythnos o ddyddiad y digwyddiad tynnu tocynnau, ac mae'n bosibl y byddant hefyd yn cael eu cyhoeddi mewn unrhyw fodd arall a bennir gan Gatherwell Ltd o bryd i'w gilydd.

10.6 Rhoddir gwybod i enillwyr trwy e-bost o fewn dwy wythnos o ddyddiad y digwyddiad tynnu tocynnau. Bydd hysbysiad o'r fath yn cynnwys dolen i hawlio'r wobr i werth y wobr y mae'r Aelod wedi'i hennill.

10.7 Mae Gatherwell yn cadw'r hawl i ddal taliad yn ôl yn achos unrhyw wobr nes ei fod yn hollol fodlon bod yr Aelod sydd wedi ennill y wobr wedi cydymffurfio'n llawn â'r Rheolau.

10.8 Os, ar ôl ennill unrhyw wobr yn y Loteri, nad ydych chi'n gallu profi'ch bod wedi bodloni'r meini prawf y manylir arnynt yn Rheolau 3.1 (a), (b) a (c) uchod yna ni fydd gennych chi hawl i dderbyn y wobr honno.

10.9 Nid oes unrhyw ddewisiadau amgen i'r gwobrau a gynigir o bryd i'w gilydd, ac nid oes llog i'w dalu.

10.10 Caiff unrhyw wobrau sydd heb eu hawlio eu credydu i'r Achos Da roedd y tocyn yn ei gefnogi, ar ôl i gyfnod o chwe mis fynd heibio.

11. Gohirio'r Loteri

11.1 Gall yr hyrwyddwr (â disgresiwn absoliwt) ohirio'r Loteri am unrhyw gyfnod o amser. Yn ystod cyfnod o'r fath, bydd Gatherwell:

(a) Yn gohirio taliadau Debyd Uniongyrchol o'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol; a

(b) Yn cadw unrhyw symiau a oedd wedi'u talu cyn i ohiriad o'r fath ddod i rym oedd heb eu defnyddio i dalu am gyfleoedd mewn Digwyddiadau Tynnu Tocynnau blaenorol.

Rhoddir gwybod ichi'n ysgrifenedig am fanylion pellach ynglŷn ag ailgychwyn y loteri neu fel arall cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad y gohirio.

12. Atebolrwydd

12.1 Ni fydd Gatherwell nac unrhyw rai o'r Cymdeithasau sy'n cymryd rhan yn y loteri o bryd i'w gilydd yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod a ddaw i'ch rhan yn sgil:

(a) Unrhyw oedi neu fethu o ran y gwasanaeth post neu ddulliau danfon eraill y mae Gatherwell, neu yr ydych chi, yn eu defnyddio o bryd i'w gilydd.

(b) Unrhyw oedi neu fethu o ran systemau y mae Gatherwell, neu yr ydych chi, yn eu defnyddio i anfon negeseuon e-bost.

(c) Unrhyw fethu o ran unrhyw feddalwedd neu systemau y mae Gatherwell yn eu defnyddio i weinyddu'r Loteri.

(d) Unrhyw oedi neu fethu o ran y system fancio y mae Gatherwell, neu yr ydych chi, yn ei defnyddio.

(e) Unrhyw achos o Gatherwell yn gwrthod derbyn cofrestriad unigolyn fel Aelod, neu o Gatherwell yn canslo Aelod.

(f) Unrhyw fethiant i gael eich Cyfle wedi'i gynnwys yn y Digwyddiad Tynnu Tocynnau.

(g) Unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth resymol Gatherwell.

12.2 Ni fydd Gatherwell nac unrhyw rai o'r Cymdeithasau sy'n cymryd rhan yn y loteri o bryd i'w gilydd yn atebol i chi mewn contract, camwedd, esgeulustra neu fel arall am unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol a ddaw i'ch rhan mewn perthynas â chymryd rhan yn y Loteri (gan gynnwys colli'r cyfle i roi cynnig ar y Loteri a / neu'r cyfle i ennill gwobr).

13. Cwynion

13.1 Gwelwch ein Gweithdrefn Gwyno.

14. Preifatrwydd

14.1 Gwelwch ein Polisi Preifatrwydd.

15. Awdurdodaeth

15.1 Bydd y Loteri ac unrhyw fater sy'n codi ohoni yn cael ei llywodraethu a'i dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Mae pob Aelod, yr Hyrwyddwr a Collectather yn cytuno'n ddi-droi'n ôl y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw i ystyried a setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n codi o'r Loteri neu mewn cysylltiad â hi neu destun neu ffurfiad y rheolau hyn.

16. Cyfeiriad Cyswllt

16.1 Dylid anfon pob gohebiaeth i'r cyfeiriad a ganlyn:

Loto Lwcus
Gatherwell Ltd
Lytchett House, 13 Freeland Park
Wareham Road
Poole
Dorset
BH16 6FA